logo image

Sut i chwilio’r System Cyhoeddi Lwfansau

Cam 1

Dewiswch chwilio’n ôl mis ynteu flwyddyn. I chwilio am lwfansau ar gyfer y flwyddyn gyfan, dewiswch 2008-2009. Os ydych yn chwilio am fanylion mis neu gyfnod penodol yn ystod y flwyddyn hon, dewiswch 2008-2009 ac yna’r mis cyntaf (ee Ebrill) hyd at y mis olaf (ee Mehefin 08).

Tudalen chwilio'n dangos dewis o ddyddiadau

Cam 2

Dewiswch yr Aelod Cynulliad rydych am gael gwybodaeth amdano neu amdani. Neu gallwch hefyd ddewis plaid wleidyddol unigol i gael rhestr o’r treuliau a hawliwyd ganddi.

Tudalen chwilio'n dangos dewis o Aelod Cynulliad

Cam 3

Dewiswch y lwfans yr hoffech ei weld. I chwilio am yr holl lwfansau a gafodd eu hawlio, peidiwch â dewis unrhyw lwfans.

Tudalen chwilio'n dangos y dewis o'r math o lwfans

Cam 4

Dewiswch pa wariant penodol yr hoffech ei weld. I chwilio am yr holl geisiadau a wnaed o dan unrhyw lwfans penodol, gadewch yr holl ddewisiadau’n wag. Mae modd dewis gweld nifer o wahanol geisiadau gyda’i gilydd hefyd.

Tudalen chwilio'n dangos y dewis o'r math o wariant

Cam 5

Cliciwch ar ‘Chwilio’ a bydd sgrin ganlyniadau’n ymddangos.

Gallwch weld rhagor o fanylion am bob canlyniad drwy glicio ar y linc ‘Gweld y Manylion’. Sylwch na fydd rhai manylion fel cyfeiriadau, siwrneiau rheolaidd a chyflogau staff cymorth yr Aelodau’n cael eu cyhoeddi’n unigol oherwydd rhesymau’n ymwneud â Diogelu Data.